Fe allai cannoedd o ferched fod wedi cael eu cam-drin yn Sir Rhydychen, yn ôl adolygiad i achosion o ecsbloetio plant yn rhywiol.
Mae hyd at 373 o blant, a allai fod wedi cael eu hecsbloetio’n rhywiol, wedi cael eu hadnabod yn y sir dros gyfnod o 16 mlynedd.
Mae Adolygiad Achos Difrifol hynod feirniadol wedi cael ei gyhoeddi heddiw sy’n datgelu cyfres o fethiannau gan yr awdurdodau a oedd yn golygu nad oedden nhw wedi sylweddoli maint y broblem a’u bod wedi colli cyfleoedd i fynd i’r afael a’r broblem.
Cafodd dioddefwyr eu gorfodi i gymryd cyffuriau ac alcohol cyn cael eu cam-drin yn gorfforol, eu gorfodi i fod yn buteiniaid, a’u treisio, meddai’r adroddiad.
Serch hynny, roedd ymchwiliad i ymateb sefydliadau gan gynnwys Cyngor Sir Rhydychen a Heddlu Dyffryn Tafwys wedi darganfod nad oedd adroddiadau’r dioddefwyr wedi eu cymryd o ddifrif.
Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu yn 2012 ar ôl i saith dyn gael eu herlyn am fod yn rhan o grŵp o bedoffiliaid.
Dywedodd awdur yr adolygiad annibynnol, Alan Bedford, bod manylion yr achosion yn “hynod o annymunol” a bod “y dioddefwyr a’u teuluoedd yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi.”