Vladimir Putin
Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn Rwsia’r bore yma i gofio am un o feirniaid amlycaf yr Arlywydd Vladimir Putin, Boris Nemtsov, gafodd ei saethu’n farw ger y Kremlin yr wythnos ddiwetha’.
Bu sawl aelod o’r dorf yn gosod blodau ger yr arch wen gafodd ei gosod yng Nghanolfan Sakharov ynghanol Moscow, ac fe fydd yr angladd yn cael ei gynnal y prynhawn yma.
Fe ddaeth marwolaeth Boris Nemtsov, 55 oed, ddiwrnod cyn yr oedd disgwyl iddo arwain protest fawr yn erbyn arweinyddiaeth Vladimir Putin.
Mae’r llofruddiaeth wedi ysgwyd Rwsia, gyda chefnogwyr yr wrthblaid yn amau bod yr Arlywydd Vladimir Putin y tu ol i’r saethu. Ond mae eraill yn dweud bod y llofruddiaeth wedi’i drefnu er mwyn maeddu enw Putin a’r Arlywydd ei hun wedi gwadu bod yn rhan o’r weithred.
Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio ar amheuaeth o’r llofruddiaeth.
Roedd Boris Nemtsov yn feirniadol o Vladimir Putin a’r gwrthdaro yn yr Wcráin yn y dyddiau cyn ei lofruddiaeth.
Cafodd Nemtsov ei saethu pedair gwaith yn ei gefn ar bont ger y Kremlin, oriau’n unig wedi gorymdaith yn gwrthwynebu’r sefyllfa yn yr Wcráin.