Carwyn Jones
Fe fydd y safonau iaith cyntaf yn cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad heddiw wrth i Lywodraeth Cymru ddisgrifio’r ddeddfwriaeth fel un “hanesyddol”.
Bydd y gyfres gyntaf o Safonau’r Gymraeg – fydd yn creu hawliau iaith newydd i bobol – yn ymwneud ag Awdurdodau Lleol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru.
Disgrifiodd Llywodraeth Cymru’r rheolau newydd fel rhai “hanesyddol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i’r iaith yn y sefydliadau hynny y bydd gofyn iddynt gydymffurfio â safonau”.
Ond fis diwethaf fe ddywedodd gwrthbleidiau’r Cynulliad ’nad oedd safonau’r llywodraeth yn mynd ddigon pell, gan awgrymu y byddan nhw’n ceisio sicrhau gwelliannau sylweddol.
Cynyddu hyder
Mewn datganiad heddiw fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’r safonau yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd.
Mynnodd hefyd ei fod am sicrhau nad oedd pobl oedd yn gofyn am wasanaethau yn y Gymraeg yn derbyn gwasanaeth israddol oherwydd hynny.
“Byddant yn fodd o sicrhau y cynigir y gwasanaethau hynny mewn ffordd ragweithiol, eu bod yn cael eu hyrwyddo’n dda, a’u bod o ansawdd sy’n golygu nad yw unigolion yn teimlo eu bod yn cael gwasanaethau o ansawdd is na’r rheini sy’n cael gwasanaethau Saesneg,” meddai Carwyn Jones am y safonau.
Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fydd â chyfrifoldeb dros hysbysu’r sefydliadau fydd yn cael eu heffeithio gan y safonau ynglŷn â’r rheolau newydd, yn ogystal â gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cydymffurfio.
Deddfwriaeth
Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio cynnal y bleidlais i gymeradwyo’r cylch cyntaf o safonau iaith erbyn 24 Mawrth, a gweld y safonau’n dod i rym erbyn diwedd y mis.
Yna fe fydd Hysbysiadau Cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg yn pennu o ba ddyddiad y bydd yn rhaid i’r sefydliadau gydymffurfio â’r safonau newydd.
Mae disgwyl hefyd i’r Comisiynydd gyflwyno ei hadroddiad ar ymchwiliad safonau ail gylch y safonau erbyn Mai 2015, cyn bwrw ymlaen i ddechrau’r ymchwiliad ar gyfer cylch tri.
Bydd y rheiny’n cynnwys mynd i’r afael â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn ogystal â rhai sefydliadau preifat a thrydydd sector.
‘Ansicr’
Dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg: “Mae gwelliant wedi bod ers rheoliadau drafft y Llywodraeth. O’r chwe phrif bwynt rhoddwyd mewn llythyr i’r Prif Weinidog gan y gwrthbleidiau yn ystod yr ymgynghoriad, bu ateb positif gan y llywodraeth i bedwar ohonyn nhw.
“Ond rydym ni dal yn ansicr sut bydd y safonau iaith yn cael eu gweithredu gan gontractwyr neu wrth roi grantiau i gyrff eraill. Bydd Plaid Cymru nawr yn gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog a chraffu yn fwy manwl ar y safonau iaith yma.”
‘Nifer o wendidau o hyd’
Dywedodd Manon Elin, is-gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r rheoliadau hyn ymhell o fod yr hawliau clir a dealladwy rydyn ni wedi galw amdanyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o’n pryderon. Mae nifer o wendidau’n dal yno: bydd rhaid mynd i’r afael â nhw wrth i’r broses symud yn ei blaen.
“Does dim digon o gefnogaeth statudol ar gyfer cyrff sydd am weithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg er enghraifft, ac mae diffyg symud cyrff ymlaen o ran cynllunio’r gweithlu.
“Yn sicr, dydyn nhw ddim wedi gwneud digon i helpu cyrff symud ymlaen i normaleiddio’r iaith, nac i sicrhau mai’r Gymraeg yw’r ddarpariaeth ddiofyn yn hytrach na rhywbeth ychwanegol. Rydyn ni’n gobeithio bydd gwleidyddion a’r Comisiynydd yn gweithio’n galed, gyda’i gilydd, er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn gweithio.”