Vaughan Gething
Mae cynllun cyntaf Cymru i fynd i’r afael â chlefydau prin yn cael ei lansio heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Vaughan Gething.

Mae’r cynllun yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG)  yng Nghymru i drin clefydau prin.

Mae clefyd prin yn cael ei ddiffinio fel clefyd sy’n effeithio pump o bobl neu lai o bob 10,000. Gall clefydau prin amrywio o salwch sy’n cyfyngu ar fywyd i amodau nad ydynt yn effeithio bywyd bob dydd.

Mae tua 150,000 o bobl yn cael eu heffeithio gan glefydau o’r fath yng Nghymru.

Mae enghreifftiau o glefydau sy’n cael eu hystyried yn brin yng Nghymru yn cynnwys Crymangell, sydd yn glefyd sy’n deillio o broblemau genetig, a Spina Bifida – clefyd sy’n codi o ddiffygion neu ddefnyddio sylweddau yn ystod beichiogrwydd.

Amcanion

Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi Strategaeth y DU ar gyfer Clefydau Prin ar waith ac maen nhw wedi nodi pum maes i helpu i gyflawni amcanion y cynllun:

–          Grymuso’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan glefydau prin

–          Adnabod ac atal clefydau prin

–          Diagnosis ac ymyrryd yn gynnar

–          Cydlynu gofal

–          Rôl ymchwil mewn mynd i’r afael a chlefydau prin

‘Gwneud gwahaniaeth’

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn disgwyl i’r cynllun wneud “gwahaniaeth go iawn” i bobl gyda chlefydau prin.

Meddai:  “Dyma’r tro cyntaf i Gymru ddatblygu cynllun i wella profiadau pobl sy’n byw gyda chlefydau prin ac mae’n dwyn nifer o argymhellion ynghyd a gynlluniwyd i wella cydlynu gofal ac arwain at ganlyniadau gwell i bobl.

“Gall cleifion â’r cyflyrau hyn ddioddef yn fawr, ac rydym yn benderfynol o ddarparu’r gofal gorau posibl ar eu cyfer.”