Yr Athro Dai Smith
Bydd cynllun gwerth £20 miliwn yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw i newid sut y bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ymwneud â’r celfyddydau.

Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau  yw ymateb Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i adolygiad annibynnol yr Athro Dai Smith, Y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru.

Mae tri phrif nod i’r cynllun sef gwella cyrhaeddiad drwy greadigrwydd, cynyddu a gwella cyfleoedd mewn ysgolion ym maes y Celfyddydau a chefnogi athrawon ac ymarferwyr y celfyddydau i ddatblygu eu sgiliau.

Mae’r cynllun yn cefnogi tair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ym maes addysg: gwella llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Ysgolion creadigol

Elfen bwysig o’r cynllun yn ôl Llywodraeth Cymru fydd annog ysgolion i fod yn rhan o’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Yn rhan o’r cynllun hwnnw, bydd modd dod ag ymarferwyr creadigol – artistiaid, cerddorion, actorion, gwneuthurwyr ffilmiau, dylunwyr – i ysgolion i weithio gyda disgyblion ac athrawon.

Yn ogystal â hynny, bydd Rhaglen y Celfyddydau ac Addysg yng Nghymru yn cael ei sefydlu i alluogi ysgolion i dynnu ar wybodaeth ac arferion artistiaid a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol er mwyn gwella ac ategu addysgu ar draws y cwricwlwm.

Bydd pedwar rhwydwaith rhanbarthol yn cael eu sefydlu hefyd i rannu arferion gorau, annog gweithio mewn partneriaeth a chynnig cyfleoedd hyfforddi ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

Pwysigrwydd creadigrwydd

Bydd gwefan dysgu newydd ar gyfer y celfyddydau a dysgu creadigol yn cael ei ddatblygu yn ddiweddarach eleni i roi gwybod am yr amryw gyfleoedd sydd ar gael.

Yn ei adroddiad diweddar, Dyfodol Llwyddiannus, a gyflwynwyd yn dilyn adolygiad annibynnol ar y cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru fe wnaeth yr Athro Graham Donaldson ategu pwysigrwydd creadigrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried ei hymateb yn awr i gais yr Athro Donaldson am newidiadau sylfaenol.

‘Tanio dychymyg’

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis:  “Mae’r celfyddydau yn tanio ein dychymyg, yn ein hysbrydoli a’n helpu ni i ddatblygu sgiliau newydd. Rydw i am weld pobl ifanc, yn enwedig o gefndiroedd llai breintiedig, yn cael y cyfle i fanteisio ar brofiadau celfyddydol a chreadigol o safon uchel mewn ysgolion yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cynllun a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r consortia addysg rhanbarthol, ein partneriaid mewn awdurdodau lleol, addysg a’r sector addysg yn ehangach er mwyn ei roi ar waith.

“Rydw i’n hyderus y bydd y camau gweithredu sydd wedi’u nodi yn gyfle i ddysgwyr, o bob cefndir, fanteisio ar y celfyddydau a’u galluogi drwy hynny i elwa ar yr amryw fanteision sydd gan y celfyddydau i’w cynnig.”