John Davies
Fe fydd llyfr Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw gan y diweddar John Davies yn cael ei hargraffu am y trydydd tro.
Cyhoeddodd Y Lolfa heddiw fod y gyfrol, sydd yn cynnwys ffotograffau Marian Delyth, wedi mynd drwy’r wasg a bod y copïau bellach ar eu ffordd i’r siopau.
Bu farw’r hanesydd, darlithydd a’r darlledwr John Davies, oedd yn cael ei adnabod fel John Bwlchllan, bythefnos yn ôl.
Ei waith enwocaf a phwysicaf oedd Hanes Cymru sy’n cael ei gydnabod fel y gwaith pwysicaf ar hanes y wlad.
‘Braint’
Cafodd Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw ei gyhoeddi gyntaf yn 2009, gan ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010.
Yn y llyfr mae John Bwlchllan yn datgelu ei restr o’r llefydd mwyaf cofiadwy a hanesyddol yng Nghymru.
“Roedd John Bwlchllan yn ysbrydoliaeth i unrhyw un oedd am wybod am leoliadau yng Nghymru, eu hanes a’u harwyddocâd cenedlaethol,” meddai Lefi Gruffudd, Golygydd Cyffredinol gwasg y Lolfa.
“Braint oedd cael cyhoeddi hunangofiant John cyn y Nadolig, Fy hanes i, a braint oedd cael cyd-weithio gydag o adeg cyhoeddi Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw.
“Mae’r gyfrol yn gampwaith ac mae wedi ysbrydoli pobl i ymweld â llefydd amrywiol a fu mor bwysig yn hanes ein cenedl.”
Yn ogystal â chynnwys rhai o’r ffefrynnau amlwg megis yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Sain Ffagan a Phortmeirion yn y llyfr, mae John Davies hefyd yn talu sylw i fannau anghysbell a llefydd mwy anghyfarwydd ac annisgwyl fel Hen Fewpyr, Tryleg a The Pales.
‘Ysbrydoli’
“Eglurodd John adeg cyhoeddi’r gyfrol ei fod wedi hepgor taith mewn cwch i ynys Enlli, traethau gwyn Ynys Llanddwyn a llefydd o’r fath am ei fod eisiau rhoi sylw i gynnyrch llafur dynolryw,” esboniodd Lefi Gruffudd.
“Mi ddywedodd y dylid cynnwys mannau fel Llanddwyn ac Enlli mewn cyfrol yn ymwneud â’r 100 lle yng Nghymru sy’n enwog am eu harddwch naturiol.
“Dyna oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i 100 o Olygfeydd Hynod Cymru, Dyfed Elis-Gruffydd, a gyhoeddwyd gennym ni’n ddiweddar. Dyna’n union oedd John yn ei wneud orau: ysbrydoli, a rhannu gwybodaeth a syniadau.”