Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts
Mae trigolion yr ardal fydd yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni wedi dweud fod yr ŵyl yn eu “bradychu” trwy sefydlu partneriaeth hefo cwmni ynni rhyngwladol RWE.
Mewn llythyr cyhoeddus at Brif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts, mae cynghorau cymuned Meifod, Llansanffraid a Charreghwfa yn dweud bod datblygiadau gan RWE yn yr ardal yn cael effaith negyddol ar eu cymunedau.
Yn hytrach na chryfhau’r economi a chreu cymunedau cynaliadwy, fel mae RWE yn honni y byddai’n ei wneud, dywed trigolion y byddai’r holl ynni sy’n cael ei greu yn Nyffryn Efyrnwy yn cael ei gludo dros y ffin i Loegr drwy 30 milltir o beilonau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth golwg360 na fydden nhw’n trafod eu hymateb i’r cynghorau cymuned gyda’r wasg.
Ond mae’r cyngor wedi datgan bod ymateb Elfed Roberts wedi creu hyd yn oed mwy o ddicter ymysg trigolion wedi iddo ddweud bod yr Eisteddfod eisiau cefnogaeth “gymaint o gwmnïau ag sy’n bosib”.
‘Llwgrwobrwyo’
“Rydym yn bryderus iawn fod RWE yn cyflwyno ei hun fel cwmni sy’n cefnogi cymunedau Cymreig, lle mewn gwirionedd mae’n cael effaith negyddol iawn ar lawer o ardaloedd yn Nyffryn Efyrnwy,” meddai awduron y llythyr.
“Byddai’r holl ynni sy’n cael ei greu gan gynlluniau dadleuol fel ‘Cysylltiad Canol Cymru’ yn cael ei allforio – maen nhw’n ceisio ein camarwain.
“Mae’r cwmni yn cynnig pecynnau ariannol, neu’n llwgrwobrwyo, i’r cymunedau lle bydd yn codi tyrbinau gwynt ond nid yw hyn ond ceiniogau o’i gymharu â’r effaith wrthwynebus ar y golygfeydd, tir fferm, prisiau tai a’r diwydiant twristiaeth.
“Rydych yn gadael i RWE greu cysylltiadau cyhoeddus gan ddefnyddio’r Eisteddfod Genedlaethol.”
‘Angen codi £3.4m’
Mae golwg360 wedi gweld copi o ymateb Elfed Roberts i’r llythyr sy’n dweud fod yr Eisteddfod wedi medru creu prosiect corawl cymunedol newydd gyda chymorth RWE eleni:
“Ni fyddem wedi medru sicrhau llwyddiant y prosiect heb gymorth RWE,” meddai.
Ychwanegodd: “Rydym wedi sefydlu partneriaeth gyda sawl cwmni ynni dros y blynyddoedd ac mae RWE eisoes wedi bod yn bartner yn 1998 a 2012.”