A hithau’n 600 mlynedd union ers diflaniad Owain Glyndŵr, mae poteli cwrw sy’n arddel enw’r tywysog bellach ar gael.
Yn Senedd-dy Machynlleth heddiw, fe gafodd y ddiod ei bwrw i’r byd gydag Ymryson y Beirdd.
Y meuryn oedd y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, a thim o feirdd dan gapteiniaeth Eurig Salisbury oedd yn fuddugol o blith y pump o griwiau a fu’n cyfansoddi’u tasgau ar y pryd.
O stabal Cwrw Llŷn
Cwmni Cwrw Llŷn ydi’r cwmni a gomisiynwyd gan Elusen Canolfan Owain Glyndŵr i gynhyrchu Cwrw Glyndŵr. Yn dilyn y lansiad bydd Cwrw Llŷn yn dosbarthu Cwrw Glyndŵr i’w rhwydwaith o dafarndai a siopau o amgylch Cymru.
Am bob potel neu beint a werthir, bydd canran o’r pris yn cael ei gyfrannu i goffrau’r Elusen. Mae’n enghraifft o’r cydweithio sy’n digwydd rhwng cwmnïau ac ardaloedd ac o ddefnyddio cynnyrch Cymru i hyrwyddo treftadaeth.
Elusen Canolfan Owain Glyndŵr sy’n gyfrifol am edrych ar ôl yr adeilad. Yno yr ymgasglodd cynrychiolwyr o gymunedau ar hyd a lled Cymru ym 1404 i goroni Owain Glyndŵr yn Dywysog dros Gymru annibynnol.
Yn bresennol hefyd, yn ôl y traddodiad, roedd gŵyr pwysig o Ffrainc, yr Alban a Chastilia (Sbaen).