Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i rannau o gorff dynol yn ystod y chwilio am y ferch 16 oed, Becky Watts.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mike Courtiour bod ei theulu wedi cael gwybod am y newyddion “erchyll”.

Cafodd  Becky Watts ei gweld y tro diwetha’ yn ei chartref yn Crown Hill, St George ym Mryste ar 19 Chwefror.

Yn sgil y datblygiad newydd, mae tri dyn a dwy ddynes arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae  dyn 28 oed a dynes 21 eisoes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

‘Gwybodaeth newydd’

“Ar ôl derbyn gwybodaeth newydd ddaeth i law neithiwr, fe aethom i dy yn Barton Court, Barton Hill.

“Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod corff Becky wedi cael ei dorri’n ddarnau ac fe wnaeth y chwilio mewn lleoliad newydd arwain at y darganfyddiad,” meddai’r Uwch-arolygydd Mike Courtiour.

Dywedodd ei theulu eu bod nhw’n “torri eu calonnau” o glywed y newyddion ac yn “methu’n glir a deall pam y byddai rhywun eisiau brifo Becky mewn ffordd mor greulon.”

Roedd Becky Watts wedi gadael ei chartref gyda’i ffon, gliniadur a chyfrifiadur ond nid oedd hi wedi dweud wrth ei theulu na’i ffrindiau lle’r oedd hi’n mynd.

Fe wnaeth ymgyrch i ddod o hyd iddi ar dudalennau cymdeithasol ddenu cefnogaeth gan 4 miliwn o bobol ledled y byd.