Cyngor Ceredigion
Mae cabinet Cyngor Ceredigion wrthi’n trafod ffyrdd o warchod enwau Cymraeg ar gartrefi’r ardal mewn cyfarfod y bore yma.
Er nad yw’r cyngor yn medru atal perchnogion tai rhag newid enw eu tŷ, mae’r cabinet yn ystyried rhoi cyfnod o 10 diwrnod i bobol sydd wedi cyflwyno cais i newid enw eu tŷ o’r Gymraeg i’r Saesneg i ail-feddwl.
Byddai’n golygu bod Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor, gafodd ei gymeradwyo yn 2007, yn cael ei ddiwygio.
Mae’r arfer o newid enw tŷ o’r Gymraeg i’r Saesneg yn cael ei weld ledled Cymru ac mae deiseb wedi cael ei sefydlu mewn ymdrech i newid y gyfraith.
Diwylliant
Pe bai’r newid yn y polisi yn cael ei gymeradwyo, byddai llythyr yn cael ei anfon at unrhyw un sy’n gwneud cais i newid enw tŷ o’r Gymraeg fyddai’n dweud:
“Ynghlwm a’r iaith Gymraeg, mae i’r ardal a’i phobol ddiwylliant, hanes a hunaniaeth gwbl unigryw. O ganlyniad mae enwau llefydd neu dai Cymraeg fel arfer yn cyfleu gwybodaeth am natur y lleoliad, ei hanes, diwylliant yr ardal neu’r sawl oedd yn arfer byw yna.
“Gall parchu enwau a thraddodiadau Cymraeg esmwytho’r broses integreiddio a chryfhau cysylltiadau cadarnhaol o fewn y gymuned.
“Mae llawer o berchnogion tai sy’n newydd i Gymru yn cael eu hunain yn berchen ar eiddo nad ydynt yn gallu ynganu ei enw neu wybod yr ystyr. Wrth allu deall y temtasiwn i gyfieithu neu newid yr enw i’r Saesneg, rydym yn awyddus i gynnig cyfle i chwi ail-ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.”