Mae banc Barclays wedi cyhoeddi cynnydd o 12% mewn elw.

Dywedodd y prif weithredwr Antony Jenkins bod y grŵp yn gryfach nag ar unrhyw adeg yn ystod yr argyfwng ariannol, gyda’i elw yn codi £750 miliwn i £5.5 biliwn cyn treth.

Ond mae’r banc wedi talu £1.25 biliwn hyd yn hyn oherwydd ei gysylltiad honedig gyda’r helynt dylanwadau ar gyfraddau cyfnewid arian dramor.

Mae Barclays hefyd wedi neilltuo £200 miliwn  i dalu am raglen iawndal ar ôl i’r banc gam-werthu yswiriant PPI i gwsmeriaid.

Roedd lefel y bonysau gafodd eu talu gan y banc 22% yn llai i £1.86 biliwn.