Adam Johnson
Mae chwaraewr Sunderland Adam Johnson wedi cael ei arestio ar amheuaeth o weithgaredd rhywiol gyda merch o dan 16 oed.
Mae’r chwaraewr rhyngwladol, sydd wedi cynrychioli Lloegr, yn parhau i fod yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio yn Durham.
Meddai’r heddlu ei fod yn parhau i’w helpu gyda’u hymholiadau.
Ganed Adam Johnson yn Sunderland. Mae’r asgellwr wedi cynrychioli ei wlad 12 o weithiau ac mae hefyd wedi chwarae i Middlesbrough a Manchester City.