Mae dros 5,000 cyfeiriad .cymru a .wales wedi’u gwerthu yn y 24awr cyntaf – gyda dros 1,000 yn cael eu gwerthu yn  yr awr gyntaf.

Mae dros 95% o Gymry dan 44 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd bellach, a Chymru erbyn hyn yw un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd â mwy nag un enw parth.

Fel rhan o’r datblygiad, fe fydd modd i unrhyw un sydd yn cofrestru i ddefnyddio .cymru neu .wales ddefnyddio acenion yn eu cyfeiriadau gwe.

Fe fu’r parthau ar gael i nifer cyfyngedig o bobol ers mis Medi’r llynedd ond mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn wrth i ymchwil ddangos bod 65% o’r rhai a gafodd eu holi yn dweud y bydden nhw’n cofrestru eu busnes neu fel unigolion ar gyfer .cymru neu .wales pe bai ar gael yn eang.

‘Ein gosod ar wahân’

Ymhlith y cyrff sy’n troi at barthau .cymru a .wales heddiw mae Llywodraeth Cymru, S4C ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae cyrff megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Golwg360, Stadiwm y Mileniwm, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru, tîm rygbi’r Scarlets a’r Mudiad Meithrin eisoes wedi troi at y parthau newydd.

Dywedodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg: “Mae Golwg a Golwg360 yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiad newydd yma o’r dechrau – roedden ni ymhlith y partneriaid i ddechrau defnyddio .cymru ynghynt eleni. Mae’r enw’n ein gosod ar wahan ac yn dangos yn glir pwy yden  ni.”

Dywedodd Jo Golley, Rheolwr Masnachol Cymru Nominet sy’n gyfrifol am werthu’r parthau newydd:  “Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o wireddiad .cymru a .wales. Mae’r parthau newydd hyn yn rhan o’r cynnig ehangach ar ôl y dot i unrhyw un sydd eisiau Cymreigio’r we.”