Plismon gyda llun o Becky Watts ym Mryste
Mae dyn, 28 oed, a dynes, 21 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio’r ferch 16 oed o Fryste, Becky Watts, meddai Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Cafodd  Becky Watts ei gweld y tro diwethaf yn ei chartref yn Crown Hill, St George ym Mryste ar 19 Chwefror.

Cafodd y dyn a’r ddynes eu harestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o’i llofruddio. Fe gawson nhw eu harestio eto heddiw ar amheuaeth o’i llofruddio.

Roedd Becky wedi gadael ei chartref gyda’i ffon, gliniadur a chyfrifiadur ond nid oedd hi wedi dweud wrth ei theulu na’i ffrindiau lle’r oedd hi’n mynd.

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio amdani ers i’w theulu hysbysu’r heddlu ei bod wedi diflannu ar 20 Chwefror.