Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad yn dilyn honiadau o ymddygiad hiliol gan gefnogwyr pêl-droed Chelsea ar drên o Lundain i Fanceinion neithiwr.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod nhw wedi cael eu galw i gwrdd â’r trên yng ngorsaf Stoke, a gofynnwyd i bedwar dyn adael y trên. Gadawodd pedwar arall y trên o’u gwirfodd.
Dywedodd y llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod teithwyr ar y trên wedi honni bod y dynion yn gefnogwyr Chelsea, ond does dim cadarnhad o hynny hyd yma.
Mae’r clwb pêl-droed o Lundain wedi wynebu nifer o honiadau o hiliaeth ymhlith ei gefnogwyr dros yr wythnosau diwethaf.
Fis diwethaf, cafodd cefnogwyr Chelsea eu ffilmio ar y Metro ym Mharis yn gweiddi sylwadau hiliol a gwrthod caniatáu i ddyn croenddu fynd ar y trên. Mae’r clwb wedi gwahardd pump o’i gefnogwyr mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd grŵp arall o gefnogwyr oedd yn dychwelyd o Baris eu clywed yn gweiddi sylwadau hiliol yng ngorsaf drenau St Pancras yn Llundain.