Llys y Goron Merthyr Tudful
Fe fydd dynes yn ei 30au yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful y prynhawn yma ar gyhuddiad o gael rhyw gyda bachgen o dan oed.

Mae Kelly Jane Richards o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf wedi’i chyhuddo o gael rhyw gyda bachgen 15 oed.

Mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Rhagfyr, fe wnaeth hi bleidio’n ddieuog.

Fe fydd yr achos yn cychwyn prynhawn yma.