Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd y tymheredd yn disgyn o dan y rhewbwynt yng Nghymru dros nos ac y gall eira ddisgyn ar diroedd uchel.
Bydd rhybudd melyn ‘byddwch yn barod’ mewn lle o 6yh heno tan 10yb fore Mawrth ac mae disgwyl i tua 5cm o eira ddisgyn mewn rhannau ar dir uchel yng Nghymru.
Bydd rhew hefyd yn achosi perygl ar y ffyrdd, yn ôl swyddogion sy’n cynghori gyrwyr i gymryd gofal.
Mae’r gwyntoedd a’r tywydd oer sy’n cyrraedd Cymru wedi dod o Ganada.