Mae deg o ddynion wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o ecsbloetio plant yng ngogledd Lloegr.

Cafodd y dynion, gyda naw ohonynt yn dod o gefndir Asiaidd, eu harestio yn ardal Rochdale.

Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o gyfres o droseddau rhyw difrifol yn erbyn saith o ddioddefwyr, gyda rhai mor ifanc â 13, rhwng 2005 a 2013.

Mae’r dynion wedi cael eu harestio yn dilyn lansio Ymgyrch Doublet gan yr heddlu i achosion o ecsbloetio merched yn eu harddegau gan ddynion hŷn yn Rochdale.

Mae 65 o bobl wedi cael eu harestio hyd yn hyn fel rhan o’r ymchwiliad.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Wiggett o Heddlu Manceinion bod yr ymchwiliad yn un o nifer o achosion sy’n dod o dan ymbarél Ymgyrch Doublet.

Mae’r dynion wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Bury neu Tameside yn ddiweddarach yr wythnos hon.