Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau o gam-drin mewn ysgol yng Nghaerfyrddin.

Mae Ymgyrch Almond yr heddlu yn ymchwilio i honiadau o gam-drin corfforol a rhywiol o blant yn Ysgol Rhydygors yng Nghaerfyrddin, rhwng 1976 ac 1986. Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar honiadau a wnaed yn 2000, a hefyd yn 2012.

Mae Ysgol Rhydygors yn darparu addysg arbennig i ddisgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad.

Meddai Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi ymchwilio’n llawn i’r honiadau a wnaed yn 2000 gan gyfeirio’r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron. Fodd bynnag, penderfynodd  Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â mynd a’r achos ymhellach ar y pryd.

Yn 2012, cafodd honiadau pellach eu gwneud, sy’n cynnwys adroddiad o gam-drin yng nghartref gofal Cartref-y-Gelli yng Nghaerfyrddin rhwng 1986 a 1990. Fe wnaed y penderfyniad i gynnal ymchwiliad troseddol newydd a fydd hefyd yn ymchwilio i honiadau hanesyddol.

Mae’r holl honiadau yn ymwneud ag aelodau o staff sydd bellach wedi gadael Ysgol Rhydygors ac mae Cartref-y-Gelli wedi cau ers nifer o flynyddoedd. Mae hyd at 20 o ddioddefwyr wedi cael eu hadnabod hyd yma.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod chwech o bobl eisoes wedi cael eu harestio yn deillio o’r honiadau wnaed yn 2012, ac maen nhw’n bwriadu cynnal cyfweliadau gyda phobl eraill sydd dan amheuaeth maes o law.