Ffatri geir
Mae twf yn  y sector cynhyrchu ym Mhrydain wedi cyrraedd ei lefel uchaf wedi saith mis o gynnydd, yn sgil galw uchel am nwyddau domestig.

Roedd canlyniadau gwerthiant y sector yn well na’r disgwyl  gyda chwymp mewn pris olew yn hwb i hynny yn ôl arbenigwyr.

Ond mae nifer yr archebion i’w allforio wedi gostwng am y pedwerydd tro mewn pum mis, yn sgil llai o alw gan wledydd yr Ewro.

Ym mis Medi’r llynedd, roedd gwerthiant y sector cynhyrchu ar ei lefel isaf ers 17 mis.

“Mae sector cynhyrchu Prydain yn adfywio yn 2015 ar ôl iddo arafu’r llynedd, wedi i gyfraddau gwerthu weld cynnydd ym mis Chwefror,” meddai’r economegydd  Rob Dobson ar ran cwmni  Markit.