'Jihadi John' yn un o fideos IS
Cafodd y dyn sy’n cael ei adnabod fel ‘Jihadi John’ ei fwlio yn yr ysgol, meddai ei gyn brifathrawes heddiw.
Dywedodd Jo Shuter, cyn bennaeth Ysgol Quintin Kynaston yng ngogledd Llundain, ei bod hi wedi cael ei “dychryn” gan y ffaith mai ei chyn ddisgybl Mohammed Emwazi yw’r dyn sy’n cael ei weld mewn sawl fideo gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) sy’n dangos gwystlon o’r Gorllewin yn cael eu dienyddio.
Meddai wrth raglen Today ar Radio 4 fod y pethau mae o wedi ei wneud yn “ddychrynllyd” ond ei bod hi’n cofio disgybl oedd yn gweithio’n galed ac yn cael ei fwlio gan blant eraill yn yr ysgol.
Yn y cyfamser, dywedodd cyn reolwr Mohammed Emwazi o gwmni technoleg gwybodaeth o Kuwait, ei fod yn un o’r “gweithwyr gorau” yr oedd erioed wedi eu cyflogi a’i fod yn “dda gyda phobl.”
Symudodd teulu Mohammed Emwazi o Kuwait i Lundain pan oedd yn chwech oed. Symudodd y teulu i Stad Mozart yn Llundain, sydd adnabyddus am ei gangiau a thrais.
Mae pryderon wedi codi fod disgyblion yn ysgol Quintin Kynaston – academi flaenllaw yn Swiss Cottage, Llundain – wedi cael eu radicaleiddio yn eu harddegau.
Ond dywedodd Jo Shuter nad oedd unrhyw beth wedi digwydd i awgrymu fod y disgyblion yn cael eu radicaleiddio.
Graddiodd Mohammed Emwazi yn ddiweddarach o Brifysgol Westminster – sefydliad yr honnir sydd wedi cael ei dargedu gan eithafwyr Islamaidd.