Mae gormod o fewnfudwyr yng ngwledydd Prydain, yn ôl llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Yvette Cooper.

Ond mae hi’n dadlau nad gosod uchafswm ar y nifer o fewnfudwyr sy’n cael dod i wledydd Prydain yw’r ateb.

Addawodd Cooper y byddai’r Blaid Lafur yn canolbwyntio ar fewnfudwyr anghyfreithlon a cheisiadau myfyrwyr am fisa mewn ymgais i leihau nifer y mewnfudwyr yng ngwledydd Prydain.

Roedd hi hefyd yn feirniadol o addewid Prif Weinidog Prydain, David Cameron i leihau nifer y mewnfudwyr i ddegau o filoedd wedi iddi ddod i’r amlwg y bu cynnydd i 298,000 yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi’r llynedd.

Dywedodd Yvette Cooper wrth raglen Andrew Marr y BBC yr hoffai i weld nifer y mewnfudwyr yn “dod i lawr”.

Wrth gyfeirio at osod uchafswm, ychwanegodd: “Fe wnaeth e [Cameron] fethu wrth ddefnyddio’r dull hwnnw.

“Rwy’n credu mai dyna’r dull anghywir gan mai’r hyn mae e wedi’i wneud yw gosod targed ar gyfer mewnfudo net, fe ddywedodd y byddai’n cyrraedd y targed heb os nac oni bai ac mewn gwirionedd, mae’r lefel dair gwaith y targed wnaeth e osod.”

Dywedodd fod y dull yn cyffredinoli mewnfudwyr, heb eu categoreiddio yn ôl eu hanghenion.

“Rwy’n credu y dylech chi dargedu mathau gwahanol o fewnfudo – rydyn ni’n gwybod er enghraifft fod myfyrwyr prifysgol sy’n dod i wledydd Prydain yn dod â biliynau [o bunnoedd] i wledydd Prydain.

“Mae’r Llywodraeth wedi eu targedu nhw yn y pen draw gan geisio lleihau hynny.”