Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio plismon trwy ei drywanu yn ei ben.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Walworth yn ne-ddwyrain Llundain toc wedi 8 o’r gloch neithiwr yn dilyn adroddiadau bod gan ddyn gyllell yn ei feddiant.
Dioddefodd y plismon anafiadau i’w ysgwydd a’i ben ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.
Roedd gan y dyn fabi yn ei law pan drywanodd y plismon, yn ôl adroddiadau.
Mae Heddlu Llundain yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa.