Mae’r dyn sy’n cael ei amau o fod yn ‘Jihadi John’ wedi dweud wrth bapur newydd Prydeinig ei fod yn cael ei aflonyddu gan MI5, a’i fod wedi ystyried lladd ei hun.
Cafodd yr honiadau eu gwneud gan Mohammed Emwazi, dyn o Lundain a gafodd ei eni yn Kuwait, mewn cyfres o e-byst rhyngddo fe a newyddiadurwr y Mail on Sunday, Robert Verkaik.
Mae ‘Jihadi John’ wedi cael ei weld mewn sawl fideo gan y Wladwriaeth Islamaidd sy’n dangos gwystlon o’r Gorllewin yn cael eu dienyddio.
Mae’r gwasanaethau diogelwch, gan gynnwys MI5, wedi cael eu beirniadu’r wythnos hon am fethu ag atal Emwazi rhag ffoi i Syria i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd.
Yn ôl papur newydd arall, y Sunday Telegraph, cafodd Emwazi ei addysgu yn yr un ysgol â dau aelod arall o’r Wladwriaeth Islamaidd yng ngogledd Llundain.
Bu farw’r ddau arall tra’n brwydro dros eithafwyr – y naill yn Syria a’r llall yn Somalia.
Daeth Emwazi i amlygrwydd pan ymddangosodd mewn fideo fis Awst diwethaf pan gafodd y newyddiadurwr Americanaidd, James Foley ei lofruddio.
Mae lle i gredu bod gan Emwazi ran hefyd yn llofruddiaethau’r newyddiadurwr Americanaidd arall Steven Sotloff, y gweithiwr cymorth o Brydain David Haines, y gyrrwr tacsi o Brydain Alan Henning a’r gweithiwr cymorth Americanaidd Abdul-Rahman Kassig.