Fe fydd yr enwau parth .cymru a .wales ar gael ar y rhyngrwyd i bawb o heddiw ymlaen.
Mae dros 95% o Gymry dan 44 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd bellach, a Chymru erbyn hyn yw un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd â mwy nag un enw parth.
Fel rhan o’r datblygiad, fe fydd modd i unrhyw un sydd yn cofrestru i ddefnyddio .cymru neu .wales ddefnyddio acenion yn eu cyfeiriadau gwe.
Fe fu’r parthau ar gael i nifer cyfyngedig o bobol ers mis Medi’r llynedd ond mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn wrth i ymchwil ddangos bod 65% o’r rhai a gafodd eu holi yn dweud y bydden nhw’n cofrestru eu busnes neu fel unigolion ar gyfer .cymru neu .wales pe bai ar gael yn eang.
Ymhlith y cyrff sy’n troi at barthau .cymru a .wales heddiw mae Llywodraeth Cymru, S4C ac Undeb Rygbi Cymru.
Mae cyrff megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Golwg360, Stadiwm y Mileniwm, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru, tîm rygbi’r Scarlets a’r Mudiad Meithrin eisoes wedi troi at y parthau newydd.
‘Cymreigio’r we’
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru a .wales a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ieuan Evans wedi croesawu’r parthau newydd.
“Bwriad y parthau hyn yw datgan ein hangerdd, balchder a’n gwreiddiau Cymreig i’r byd ar-lein ac o ganlyniad, rydym nawr gyda’r cyfle i wneud hynny, yng Nghymru ac ar draws y byd.
“Rwy’n hynod falch fy mod o’r diwedd yn gallu defnyddio fy nghyfeiriadau we .cymru a .wales ac rwy’n gwybod bydd unrhyw un gyda chysylltiad â Chymru eisiau gwneud yr un peth ac ymuno â fi wrth i ni Gymreigio’r we.”
Dywedodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg: “Mae Golwg a Golwg360 yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiad newydd yma o’r dechrau – roedden ni ymhlith y partneriaid i ddechrau defnyddio .cymru ynghynt eleni. Mae’r enw’n ein gosod ar wahan ac yn dangos yn glir pwy yden ni.”
‘Digwyddiad cyffrous’
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, “Mae’r newid heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn ddigwyddiad cyffrous i ni ac rydym yn falch iawn o fod ymhlith y cyntaf i ddefnyddio’r enw parth newydd. Pwysigrwydd defnyddio .cymru i S4C yw ei fod yn atgyfnerthu ein balchder a’n hyder yn ein hunaniaeth yn rhyngwladol.
“Dros y blynyddoedd mae S4C wedi bod yn allforiwr rhyngwladol cynhyrchiol ac mi fydd defnyddio .cymru yn gwneud llawer i atgyfnerthu hyn a chodi proffil Cymru ymhellach ar draws y byd.”