Ffrainc 13–20 Cymru
Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth dda yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France nos Sadwrn.
Roedd amddiffyn dewr, cicio cywir Leigh Halfpenny a chais Dan Biggar yn ddisgon i sicrhau buddugoliaeth i dîm Warren Gatland, eu pedwaredd yn olynol yn erbyn y Ffrancwyr.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Cymru’n dda ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Leigh Halfpenny wedi wyth munud.
Cafodd Ffrainc gyfnod gwell wedi hynny ac roedd Ffrainc yn gyfartal wedi deunaw munud diolch i gic Camille Lopez.
Methodd Lopez ei ail gynnig cyn i Halfpenny lwyddo gyda’i ail yntau, 3-6 y sgôr wedi hanner awr o chwarae.
Agorodd y gêm wedi hynny gyda’r ddau dîm yn ceisio rhedeg y bêl ac oni bai am bas ymlaen byddai Yoann Huget wedi croesi am gais cyntaf gêm i’r Ffrancwyr.
Cafodd Lopez gyfle i unioni pethau gyda chic olaf yr hanner ond yn ffodus i Gymru roedd y maswr wedi anghofio ei esgidiau cicio yn yr ystafell newid, 3-6 y sgôr wedi deugain munud.
Ail Hanner
Ffrainc oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail hanner ac er i Morgan Parra fethu gydag un cynnig at y pyst fe lwyddodd Lopez yn y diwedd i unioni pethau wedi deg munud o’r ail gyfnod.
Tarodd Cymru’n nôl yn syth serch hynny gyda thri phwynt arall o droed ddibynadwy Halfpenny ac er i gynnig Biggar am gôl adlam yn fuan wedyn daro’r postyn doedd dim rhaid i’r maswr aros yn hir cyn ymddangos ar y sgôr-fwrdd.
Daeth y cais agoriadol ar yr awr, bylchiad nodweddiadol gan Rhys Webb, cefnogaeth a dwylo gwych gan Dan Lydiate a Biggar yn gwneud digon i gyrraedd gornel.
Methodd Halfpenny’r trosiad anodd ond llwyddodd gyda chic gosb yn fuan wedyn i ymestyn mantais ei dîm i un pwynt ar ddeg gyda chwarter awr i fynd.
Nid oedd hwn yn un o berfformiadau gwaethaf Ffrainc yn y blynyddoedd diwethaf ac roedd dipyn o sglein ar gais haeddianol y cefnwr, Brice Dulin, ddeuddeg munud o’r diwedd, cais a roddodd obaith i’r Ffrancwyr, 13-17 yn dilyn trosiad Lopez.
Ymestynnodd Halfpenny’r bwlch i saith gyda’i bumed cic lwyddiannus ac er i Ffrainc bwyso yn y munudau olaf daeth eu hymdrechion i ben gyda thacl enfawr Jamie Roberts ar Dulin funud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn cadw Cymru yn drydydd yn nhabl y Chwe Gwlad gyda dwy gêm (yn erbyn Iwerddon a’r Eidal) ar ôl.
.
Ffrainc
Cais: Brice Dulin 68’
Trosiad: Camille Lopez 69’
Ciciau Cosb: Camille Lopez 18’, 49’
.
Cymru
Cais: Dan Biggar 60’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 8’, 29’, 52’, 65’, 74’