Torquay (1)0–3(5) Wrecsam
Mae Wrecsam wedi cyrraedd Wembley am y trydydd tro mewn tri thymor ar ôl trechu Torquay ar Plainmoor brynhawn Sadwrn yn ail gymal rownd gynderfynol Tlws yr FA.
Roedd y Dreigiau yn arwain o ddwy gôl i un ers y cymal cyntaf ar y Cae Ras yr wythnos diwethaf ac ychwanegwyd tair gôl arall at y sgôr yn yr ail gêm.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr roedd yn rhaid i Torquay geisio gôl yn yr ail gyfnod gan adael bylchau anorfod yn y cefn.
Manteisiodd Wrecsam yn llawn gyda thair gôl ail hanner, y gyntaf o’r rheiny’n dod o ben Louis Moult yn dilyn croesiad Dean Keates.
Ychwanegodd Kieron Morris ddwy arall yn fuan wedyn i roi’r gêm ym mhell o afael y gwrthwynebwyr.
Enillodd Wrecsam y gystadleuaeth hon yn 2013 a hwy fydd y ffefrynnau wrth anelu am Wembley eto i herio unai Caerfaddon neu North Ferriby ddiwedd Mawrth.