Burton 0–1 Casnewydd

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Gasnewydd sicrhau buddugoliaeth dda yn erbyn Burton yn Stadiwm Pirelli brynhawn Sadwrn.

Burton sydd ar frig tabl yr Ail Adran ond dychwelodd Casnewydd i’r saith uchaf gyda thri phwynt gwerthfawr.

Bu rhaid aros tan doc cyn yr awr am unig gôl y gêm, ond am gôl oedd hi, foli gampus Miles Storey o bêl Yan Klukowski.

Mae tîm Jimmy Dack yn ôl yn y safleoedd ail gyfle yn awr, yn y seithfed safle gyda thair gêm ar ddeg ar ôl.

.
Burton
Tîm:
McLaughlin, Edwards (Calero 65′), Mousinho, Cansdell-Sherriff, McCrory, Akins, Weir, Lenihan, El Khayati (Maynard 53′), McGurk, Beavon (Antoine-Curier 56′)
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Jackson, Jones, Yakubu, Tutonda, Byrne, Porter, Chapman (Minshull 83′), Klukowski, Zebroski (Sandell 77′), Storey (Howe 87′)
Gôl: Storey 59’
Cardiau Melyn: Jones 69’, Storey 85’
.
Torf: 2,974