Caerdydd 0–1 Wolves

Colli gartref yn erbyn Wolves oedd hanes Caerdydd yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl hanner cyntaf Bakary Sako’n ddigon i’r ymwelwyr gipio’r tri phwynt wrth i dymor trychinebus Caerdydd barhau.

Doedd dim llawer rhwng y ddau dîm yn y chwarter cyntaf ond aeth Wolves ar y blaen wedi 26 munud pan rwydodd Sako yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gaerdydd yn yr ail hanner pan dderbyniodd Peter Wittingham ddau gerdyn melyn o fewn llai na deg munud i’w gilydd a bu rhaid iddynt chwarae’r hanner awr olaf gyda deg dyn.

Bu bron iddynt unioni pethau yn yr eiliadau olaf serch hynny ond cafodd cynnig Kenwyne Jones ei atal ar y llinell.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn y pymthegfed safle yn y Bencampwriaeth.

.
Caerdydd
Tîm:
Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Morrison, Connolly, Kennedy (Revell 79′), Gunnarsson, Whittingham, Noone, Doyle (McAleny 63′), Jones
Cardiau Melyn: Wittingham 57’, 65’
Cerdyn Coch: Wittingham 65’
.
Wolves
Tîm:
Kuszczak, Iorfa (Doherty 61′), Batth, Stearman, Hause, McDonald, Price, van La Parra (Dicko 59′), Edwards, Sako, Afobe (Ebanks-Landell 88′)
Gôl: Sako 26’
Cardiau Melyn: Iorfa 7’, McDonald 74’
.
Torf: 21,165