Burnley 0–1 Abertawe

Roedd un gôl yn ddigon i Abertawe wrth iddynt drechu Burnley yn Turf Moor brynhawn Sadwrn.

Gôl i’w rhwyd eu hunain gan y tîm cartref oedd honno ond fydd yr Elyrch ddim yn poeni gormod am hynny wrth i dri phwynt arall eu codi i’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Ashley Barnes a ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf ond gwnaeth y gôl-geidwad Abertawe, Lukasz Fabianski, yn dda i’w atal.

Roedd y Cymry’n well wedi’r egwyl er nad oedd llawer rhwng y ddau dîm. Daeth y gôl hanner ffordd trwy’r ail gyfnod yn dilyn llanast yn amddiffyn Burnley. Gwyrodd cynnig Jack Cork oddi ar Kieran Trippier a chafodd y bêl ei helpu ar y ffordd dros y llinell gan y gôl-geidwad cartref, Tom Heaton.

Daeth Sam Vokes i’r cae am y chwarter awr olaf i Burnley ac ef ddaeth agosaf at unioni’r sgôr, ond roedd Fabianski yn effro unwaith eto i atal cynnig y Cymro wrth y postyn agosaf.

Gallai Nélson Olivera fod wedi dyblu’r fantais yn yr eiliadau olaf ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi abertawe dros West Ham i’r wythfed safle.

.
Burnley
Tîm:
Heaton, Trippier, Keane, Shackell, Mee, Boyd, Jones, Arfield, Kightly (Vokes 75′), Barnes (Jutkiewicz 90′), Ings
.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Cork, Shelvey, Carroll (Montero 61′), Gomis (Oliveira 92′), Routledge (Amat 90′)
Gôl: Trippier [g.e.h.] 64’
.
Torf: 17,338