Ulster 25–20 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets yn Ravenhill nos Wener er iddynt fod ar y blaen ar hanner amser yn erbyn Ulster yn y gêm Guinness Pro12.

Roedd cais John Barclay wedi rhoi’r ymwelwyr ary blaen ar hanner amser ond dangosodd Ulster pam eu bod tua brig y tabl gan ennill y gêm gyda thri chais yn hanner cyntaf yr ail hanner.

Doedd dim byd i wahanu’r ddau dîm wedi hanner awr gyda’r sgôr yn gyfartal yn dilyn dwy gic gosb yr un gan Steve Shingler a Ruan Pienaar.

Ond yr ymwelwyr o Gymru oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i gais y blaenasgellwr, John Barclay, a throsiad Shingler, 6-13 y sgôr.

Dechreuoddyr ail hanner gyda chais cynnar i Craig Gilroy a daeth un arall i’w ganlyn yn fuan wedyn gan Luke Marshall wrth i’r Gwyddelod fynd ar y blaen am y tro cyntaf.

Rhoddodd Pienaar olau dydd rhwyng y ddau dîm ar yr awr wrth sgorio a throsi ei gais ei hun a dim ond cais cysur oedd ymdrech hwyr Kristian Phillips i’r Scarlets.

Fe wnaeth y cais hwnnw sicrhau pwynt bonws serch hynny ac mae’r Scarlets yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12 yn dilyn y canlyniad.
.
Ulster
Ceisiau:
Craig Gilroy 45’, Luke Marshall 51’, Ruan Pienaar 58’
Trosiadau: Ruan Pienaar 52’, 59’
Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 24’, 31’
.
Scarlets
Ceisiau:
John Barclay 37’, Kristian Phillips 78’
Trosiadau: Steven Shingler 38’, 80’
Ciciau Cosb: Steven Shingler 12’, 28’