Gweilch 9–9 Leinster

Cyfartal oedd hi ar y Liberty nos Wener wrth i Leinster deithio i Abertawe i herio’r Gweilch yn y Guinness Pro12.

Er i’r Gwyddelod arwain am ran helaeth o’r hanner cyntaf fe darodd y Gweilch yn ôl gyda chicio cywir Sam Davies ac roedd angen cic gosb hwyr Jimmy Gopperh ar yr ymwelwyr i achub gêm gyfartal yn y diwedd.

Y Gweilch a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn y deugain munud agoriadol ond roedd Leinster chwe phwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner diolch i ddwy gic gosb o droed Gopperth.

Hanerodd Davies y bwlch gyda chic olaf yr hanner cyn unioni pethau gyda gôl adlam yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Y Gweilch oedd ar y blaen ar yr awr diolch i dri phwynt arall gan Davies ond bu rhaid iddynt amddiffyn yn ddewr wedi hynny i atal Leinster rhag croesi.

A bu bron i’r tîm cartref ddal eu gafael tan y diwedd hefyd ond pan ildiodd James King drosedd yn ardal y dacl gyda dau funud i fynd fe fanteisiodd Gopperth i gipio hanner y pwyntiau i Leinster.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn bumed yn nhabl y Pro12 wedi iddynt golli cyfle i godi dros Leinster i’r pedwar uchaf.
.
Gweilch
Ciciau Cosb:
Sam Davies 40’, 54’
Gôl Adlam: Sam Davies 42’
.
Leinster
Ciciau Cosb:
Jimmy Gopperth 14’, 22’, 78’