Mae’r Gweilch wedi cytuno i ddiddymu cytundeb Sam Lewis wedi i’r blaenasgellwr ofyn am gael gadael y rhanbarth.

Mewn datganiad heddiw fe gadarnhaodd y Gweilch y bydd y chwaraewr 24 oed yn gadael yn syth.

Dywedodd y rhanbarth fod cymalau yn ei gytundeb oedd yn golygu bod hawl ganddo adael ar ddiwedd y tymor, ond wnaethon nhw ddim dweud beth oedd yr amodau hynny.

Yn ôl y Gweilch, dymuniad Sam Lewis i chwarae rygbi yn fwy aml oedd y rheswm am adael iddo fynd yng nghanol y tymor.

Datgelodd y Gweilch fod y chwaraewr wedi gofyn am gael mynd er mwyn “derbyn cynnig arall o gyflogaeth”, ond hyd yn hyn does dim cadarnhad wedi dod eto i ba glwb y bydd yn symud ato.

Ychwanegodd datganiad y rhanbarth nad oedden nhw eisiau i hyn amharu ar “gyfnod allweddol yn y tymor”, ac felly eu bod nhw wedi cytuno i gais Sam Lewis.

Mae’r blaenasgellwr wedi chwarae 65 o weithiau dros y Gweilch ers 2011, ond dim ond 13 o weithiau y mae wedi chwarae’r tymor hwn.