Mae ditectifs yn ymchwilio wedi i gyrff merch 4 oed a dyn gael eu canfod mewn fflat.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r cyfeiriad yn Notting Hill, gorllewin Llundain, wedi i gymdogion fynegi pryder am y trigolion.

Roedd hynny toc cyn 8 o’r gloch neithiwr. Fe fu’n rhaid i’r heddlu dorri i mewn i’r fflat, cyn dod o hyd i’r ddau gorff.

Mae’r marwolaethau’n cael eu disgrifio fel rhai “heb eglurhad” ar hyn o bryd. Mae dynes yn ei 30au wedi cael ei harestio mewn cysylltiad a’r marwolaethau, ac mae hi yn y ddalfa yng nghanol Llundain.

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad a’r digwyddiad.