Suzy Davies - "mae hyder yn atyniadol iawn"
Mae gweinidog yr wrthblaid ym Mae Caerdydd ar Dreftadaeth, wedi bod yn trafod bendithion “Teyrnas Unedig gref” wrth annerch cynhaddledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd heddiw.

Mae Suzy Davies yn dweud na ddylai bod yn rhan o’r deyrnas atal Cymru rhag bod yn “angerddol am ein hunaniaeth fel cenedl Gymreig”.

“Mae cyhoeddiad y Prif Weinidog (David Cameron) ar bwerau datganoli pellach yn cydnabod ein bod yn aeddfedu yn wleidyddol yn ogystal ag yn ddiwylliannol,” meddai.

“Rydan ni’n genedl sy’n cwestiynu ei ffyddlondeb i un blaid – sef y blaid Lafur – sy’n profi llai a llai o gefnogaeth oherwydd ei chanfyddiadau hen ffasiwn… mewn Cymru ddatganoledig.

“Mae Cymru’n dod yn ôl, ydi, ond, yn fwy na hynny, mae’n bwrw ymlaen,” meddai Suzy Davies eto.

Hyder

“Rydan ni’n ddigon hyderus i ddiosg croen hen sosialaeth,” meddai wedyn, “rydan ni’n dod yn fwy cyfforddus wrth dorri’n rhydd o bob rhagfarn wnaethon ni ei hetifeddu, gan wneud dewisiadau gwahanol ynglyn a be’ fedr ein cenedl unigryw ni ei wneud.

“Does dim byd sy’n fwy atyniadol na hyder. Mewn byd o wledydd, mae’n ddibwynt inni fod yn swil, yn genedl sy’n methu symud ymlaen o’i gorffennol gormesol.

“Mae ein diwylliant a’n treftadaeth yn rhan o’n hyder cenedlaethol,” meddai Suzy Davies.