'Jihadi John'
Mae swyddogion gwasanaethau cudd MI5 wedi bod yn holi cyn-athrawon Mohammed Emwazi, wedi iddo gael ei enwi yr wythnos hon fel y terfysgwr ‘Jihadi John’.

Ac mae David Cameron wedi siarad allan o blaid y gwasanaethau cudd wedi i rai ddweud fod yr asiantaethau’n rhannol gyfrifol am ei radicaleiddio cyn iddo ymuno ag IS.

Mae cyn-athrawes i’r bachgen a dyfodd i fyny yn Llundain yn dweud i’r bachgen gael hyfforddiant er mwyn dod i delerau a’i natur wyllt, cyn mynd yn ei flaen i gael canlyniadau da yn ei arholiadau. Graddiodd yn ddiweddarach o brifysgol Westminster.

“Faswn i’n dweud fod Mohammed yn stori lwyddiant yn ein hysgol ni,” meddai’r athro wrth raglen Newsnight neithiwr.

“Fe aeth yn ei flaen i wneud popeth yr oedd o’n dymuno ei gyflawni. Fe aeth i’r brifysgol o’i ddewis, ac fe flodeuodd fel dyn ifanc… Dw i wedi fy synnu gyda’r datgeliad hwn yr wythnos yma.”