Bu’r ddraig goch yn rhuo yn Wall Street ac roedd Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd wedi’i orchuddio â baneri Cymru ddoe, wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ganu’r gloch enwog ar ddiwedd yr wythnos.

Roedd y Prif Weinidog yn ymweld a’r ddinas i ddathlu perthynas economaid Cymru â’r Unol Daleithiau, cyn dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1.

Roedd llysgennad UNICEF, yr actor o Gymru Michael Sheen, hefyd yn bresennol.

Dywedodd y Prif Weinidog, fydd yn teithio i Washington DC, Philadelphia ac Efrog Newydd i hyrwyddo Cymru dramor: “Mae 270 o gwmnïau Americanaidd yng Nghymru ac mae’r Unol Daleithiau yn parhau yn un o’n prif gyrchfannau allforio o bell ffordd.

“Mae’n fraint fawr hyrwyddo Cymru i’r byd, ac mae gennym gymaint i’w gynnig i gwmnïau o bob math – gweithlu dawnus sydd wedi’u hysgogi, buddsoddiadau yn y seilwaith ac ym maes hyfforddi, diwylliant croesawgar, ac yn bwysig iawn, llywodraeth sy’n cefnogi’r byd busnes ac sydd am ei helpu i lwyddo,” meddai Carwyn Jones.

“Mae miloedd ledled y byd yn gweld y Gloch yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd yn cael ei chanu i nodi diwedd busnes yr wythnos. Bu llygaid y byd ar Gymru, ac rwy’n gobeithio eu bod yn hoffi yr hyn a welson nhw.”