Nick Clegg
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwario hyd at £450 miliwn yn ychwanegol ar wasanaeth iechyd Cymru pe bai nhw’n ennill grym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesa’, yn ôl eu harweinydd Nick Clegg.

Wrth annerch ei blaid yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwario £8 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd o dan gynllun newydd, all olygu £450m y flwyddyn yn ychwanegol i Gymru.

Roedd yn mynnu nad yw’r blaid Lafur yn medru cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd ac anghenion cleifion Cymru ac y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cychwyn gwneud hynny drwy fuddsoddi mewn mwy o nyrsys.

‘Cam ymhellach’

Ychydig oriau ar ôl iddo sefyll wrth ymyl David Cameron i gyhoeddi rhestr o’r pwerau ychwanegol fyddai’n cael eu trosglwyddo i Gymru, dywedodd Dirprwy Weinidog Prydain y byddai’n mynd gam ymhellach pe bai o’n rheoli yn San Steffan.

“Fydden ni ddim yn llaesu dwylo. Rydym am weld Cymru’n rheoli ei materion ei hun,” meddai Nick Clegg.

“Fe allwn ni warantu y bydd cyllid teg yn cael ei ddyfarnu ac fe fyddwn ni’n parhau i ymgyrch i drosglwyddo pwerau plismona a thrafnidiaeth i Gymru.”