Gogzilla
24 awr cyn i sgidiau stỳds tîm rygbi Cymru gyffwrdd cae’r Stade de France, mae’r pyndit rygbi Gwyn Jones wedi dweud bod angen iddyn nhw fod yn “fwy siarp” os am gael unrhyw obaith o guro Ffrainc.
Yn darogan canlyniad y gêm, dywedodd y bydd Cymru yn trechu’r Ffrancwyr o ddau bwynt os ydyn nhw’n cyd-chwarae.
“Ni fydd Cymru’n newid eu dull chwarae yfory. Byddan nhw’n rhedeg yn yr un ffordd ac yn glynu at yr un patrymau ond bydd yn rhaid i’r holl beth fod yn fwy siarp os ydyn nhw am guro Ffrainc,” meddai cyn-gapten Cymru.
“Bydd Ffrainc yn hyrddio yn y leiniau ac yn dominyddu ar ymylon y sgarmesau gyda Parra yn defnyddio’i chwaraewyr ar yr ochr dywyll.
“Mae’r ddau dîm yn mynd trwy gyfnod anodd ar hyn o bryd. Nid oes llawer o wahaniaeth rhyngddynt. Os yw Ffrainc yn colli, mae’n bosibl y bydd Saint-André yn colli ei swydd.
“Credaf mai Cymru aiff â hi o ryw ddau bwynt gan fod ganddyn nhw well ddisgyblaeth a threfn.”
Carreg filltir i Gogzilla
- Yn y gêm yfory fe fydd asgellwr Cymru, George ‘Gogzilla’ North, yn creu hanes drwy fod y person ieuengaf i ennill ei 50fed cap. Mae’n 22 oed.
- Mae Cymru wedi trechu’r Ffrancwyr dair gwaith yn olynol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hynny heb ildio’r un cais.
- Mae’r ddwy wlad yn cwrdd ar y cae am gêm rhif 93.
- Bydd Sam Warburton yn ennill cap rhif 33 yn gapten ar ei wlad, sef yr un faint â record Ryan Jones.
- Ni fydd clo Ffrainc Pascal Pape yn chwarae ar ôl iddo dderbyn gwaharddiad 10 wythnos am chwarae budur yn erbyn Iwerddon.
Ffrainc v Cymru, Dydd Sadwrn KO 6:00, yr ornest yn fyw ar S4C.