Mae cyn-bennaeth Sainsbury’s Justin King wedi ymuno â chwmni prosesu 2 Sisters yn ymgynghorydd, yn ei rôl gyntaf ers gadael yr archfarchnad.
Daeth cadarnhad gan y cwmni bwyd heddiw, ac mae’n dod wedi i Justin King adael ei swydd gyda Sainsbury’s wyth mis yn ôl.
Mae’n cael ei adnabod am ei waith yn gwella trosiant Sainsbury’s ac am ei rôl gyda Mark and Spencer cyn hynny.
Mae gan 2 Sisters ffatri brosesu cywion ieir yn Llangefni, Ynys Môn ond yr wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd bod pryder am ddyfodol swyddi 300 o’r gweithwyr wrth i’r cwmni ystyried cael gwared ar un o’r ddwy linell gynhyrchu yn y ffatri.
Mae disgwyl penderfyniad ddiwedd y mis.