Bydd dwy Gymraes yn trafod eu profiadau yn cenhadu dros Grist mewn gwledydd Mwslemaidd ar Radio Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Wedi’r digwyddiadau brawychol diweddar ym Mharis ac mewn gwledydd fel Syria, Lybia a Nigeria, mae cyfres Bwrw Golwg yn trafod profiadau’r ddwy ferch sydd newydd ddychwelyd i Gymry o Fangladesh ac India.

Anesthetydd o Gaerdydd yw Rebecca Jones ac fe wnaeth hi dreulio dwy flynedd yn gweithio mewn ysbyty yng ngogledd-orllewin Bangladesh. Bu’n gweithio mewn ardal dlawd iawn lle’r oedd hi’n gwella’r gwasanaeth i ferched, yn enw Iesu Grist.

Daw Anna Huws o Bontypridd a bu hi’n dysgu Saesneg mewn ardal Fwslimaidd yn India. Bu’n rhaid iddi hi a’i ffrind orfod dod o hyd i adeilad i gynnal yr ysgol a dysgu’r iaith frodorol, ac fe wynebodd fygythiadau yn ystod y tair blynedd y bu hi yno.

Gweld bai

Meddai llefarydd ar ran Radio Cymru: “Mae rhai Mwslemiaid yn rhoi’r bai ar genhadaeth Gristnogol orllewinol [am y gwrthdaro crefyddol] gydag un wefan Islamaidd yn dweud fod ymyrraeth Cristnogion yn lledu fel tyfiant canser. Mae’n cyhuddo cenhadon o gyrraedd gyda sieciau o filoedd o bunnau o arian dyngarol er mwyn lledaenu eu neges.

“Ydi cenhadaeth felly yn bwydo casineb ac ydi cenhadu mewn gwlad neu ardal Fwslemaidd yn ddoeth ac yn addas?”

Bwrw Golwg am wyth yr hwyr ar Radio Cymru.