Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi cyhoeddi colledion mawr eto heddiw, ac mae prif weithredwr y banc wedi penderfynu peidio â derbyn cyfran o £1 miliwn o’i becyn cyflog.

Ond er bod y banc, sydd a 80% ohono’n eiddo i’r trethdalwr, wedi cyhoeddi’r golled o £3.5 biliwn, mae’n dipyn llai na’r golled o £9 biliwn wnaethon nhw gyhoeddi’r llynedd.

Cadarnhaodd RBS hefyd heddiw y bydd Syr Howard Davies, cyn bennaeth yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, yn gadeirydd ar y banc o fis Medi ymlaen. Bydd yn cymryd lle Syr Philip Hampton, fydd yn ymuno â’r cwmni fferyllol, GlaxoSmithKline.

Cafodd bonysau’r cwmni eu torri o 21% i £421 miliwn yn 2014, tra dywedodd y prif weithredwr Ross McEwan na fydd yn cymryd £1 miliwn o fonws eleni. Roedd hefyd wedi gwrthod cymryd bonws y llynedd.