Jimmy Savile
Mae tystiolaeth glir bod rhai o staff Ysbyty Stoke Mandeville yn gwybod bod Jimmy Savile yn cam-drin cleifion ifainc, yn ôl cyfreithiwr sy’n cynrychioli nifer o ddioddefwyr.
Mae disgwyl i ganfyddiadau cyfres o ymchwiliadau gan ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) i honiadau o gam-drin gan y cyflwynydd teledu, gael eu cyhoeddi. Bydd yn cynnwys adroddiad allweddol i’w weithgareddau yn Ysbyty Stoke Mandeville yn Sir Buckingham lle’r oedd ganddo ystafell wely ei hun.
Fe fydd Kate Lampard, a gafodd ei phenodi gan yr Adran Iechyd i oruchwylio’r ymchwiliadau, hefyd yn cyflwyno argymhellion ar sail y gwersi sydd wedi cael eu dysgu yn sgil helynt Jimmy Savile.
Yn ogystal, bydd canfyddiadau ymchwiliadau i nifer o ysbytai a sefydliadau eraill y GIG yn cael eu cyhoeddi heddiw. Fe gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd bod yr ymchwiliadau’n cael eu cynnal ar ôl i honiadau newydd o gam-drin ddod i’r fei.
Dywedodd Liz Dux, sy’n gyfreithwraig gyda chwmni Slater and Gordon ac sy’n cynrychioli 44 o ddioddefwyr Savile: “Mae gennym ni dystiolaeth glir gan ddioddefwyr Savile yn Stoke Mandeville bod staff yn gwybod am y cam-drin.
“Roedd rhai pobl yn gwybod ac wedi penderfynu ei anwybyddu. Mae’n anodd credu.
“Rydym yn disgwyl i’r adroddiad, unwaith eto, amlinellu lefelau brawychus o gamdrin. Ac rydym hefyd yn credu y bydd yn datgelu nifer o gyfleoedd gafodd eu colli i atal y cam-drin.”
Mae adroddiadau blaenorol sydd wedi cael eu cyhoeddi i weithgareddau Savile ar safleoedd y GIG wedi datgan bod cyn gyflwynydd y BBC wedi cam-drin cannoedd o gleifion rhwng pump a 75 oed, ar draws y wlad, a’i fod wedi defnyddio ei statws i “ecsbloetio a cham-drin” cleifion a staff.
Bu farw Savile yn 2011 yn 84 oed, flwyddyn cyn i honiadau o gamdrin rhywiol ddod i’r amlwg mewn rhaglen ddogfen ar ITV.