Iolo Cheung
Mae ffonau smart a chamerâu cudd yn taflu goleuni angenrheidiol ar rai corneli o gymdeithas, yn ôl Iolo Cheung …
Os oes gennych chi ffôn smart efo batri diddiwedd (oce, bosib ddim) efallai y buasai’n werth i chi droi’r camera ymlaen a cherdded rownd gyda’ch bys ar y botwm record yn barhaol.
Pwy a ŵyr beth ddaliwch chi gyda’ch teclyn chi, fel rydan ni wedi’i weld sawl gwaith dros yr wythnos diwethaf yn barod.
Yn gyntaf y clip fideo yna o gefnogwyr Chelsea yn gwthio dyn du oddi ar y Metro ym Mharis cyn canu slogan hiliol ‘We’re racist, and that’s the way we like it’ (ac adroddiadau o ragor o weiddi hiliol yng ngorsaf St Pancras ar eu ffordd adref).
Yna clip nid yn annhebyg yn ymddangos ar Twitter o gefnogwyr West Ham yn canu cân gwrth-Semitaidd ar y ffordd i gêm yn erbyn Tottenham Hotspur, clwb sydd â chysylltiadau Iddewig.
Ac yna ymchwiliad dadlennol y Daily Telegraph a Channel 4, gyda chamerâu cudd rhaglen Dispatches yn dangos Jack Straw a Malcolm Rifkind yn closio braidd yn agos at gwmni Tsieineaidd ffug.
Dim ond y diweddaraf ydi’r rhain o ddwsinau o esiamplau o bobl yn cael eu dal allan ar gamera, yn ddiarwybod iddyn nhw, yn ymddwyn mewn modd amheus.
Ond mae’n pwysleisio unwaith eto defnyddioldeb y dechnoleg fodern hon wrth ddwyn pobl i gyfrif am eu hymddygiad.
Bodoli dan yr wyneb
Un peth i’w nodi wrth gwrs ydi bod caneuon sarhaus o’r fath gan gefnogwyr pêl-droed, ac ymddygiad amheus gan wleidyddion, ddim yn newydd.
Dydi’r ffaith fod y caneuon hynny wedi cael eu dal ar gamera, neu wleidyddion yn cael eu dal allan gan sting papur newydd, ddim yn newydd chwaith.
Ond mae esiamplau’r wythnos diwethaf yn dangos mor effeithiol mae’r camerâu cudd yma’n gallu bod, a sut maen nhw’n ein hatgoffa ni o broblemau mae rhai efallai wedi eu sgubo dan y carped.
Yn y byd pêl-droed mae llawer o sylw dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar elfennau o hiliaeth mewn torfeydd yng ngwledydd eraill Ewrop – yn ffodus, prin iawn yw’r achosion o ganu sloganau o’r fath mewn meysydd ym Mhrydain bellach.
Dydi’r peth ddim wedi diflannu’n llwyr, fodd bynnag – fe gewch chi dal gefnogwyr clybiau eraill – a rhai Spurs hefyd – yn canu’r gair ‘Yid’ er enghraifft, ac fe ddangosodd y gêm ddiweddar rhwng Celtic a Rangers bod canu sectyddol dal yn fyw yn yr Alban.
Ac mae’r fideos o gefnogwyr Chelsea a West Ham yn dangos fod y broblem yn bodoli o hyd o dan yr wyneb gyda lleiafrif o gefnogwyr – cefnogwyr fyddai mwy na thebyg byth wedi canu’r caneuon hynny petai nhw’n gwybod fod rhywun yn eu ffilmio er mwyn ei roi ar y we.
Dw i ddim yn meddwl am eiliad fod yr ymddygiad yma o ganu caneuon amheus wedi ei gyfyngu i lond llaw o gefnogwyr Chelsea a West Ham – dim ond mai nhw sydd wedi cael eu ffilmio’r wythnos hon.
Ac mae’n anodd dweud fod y rhain “ddim yn gefnogwyr Chelsea”, fel yr awgrymodd rhai – dydach chi ddim yn teithio dramor i wylio’ch tîm heb eich bod chi’n gefnogwr selog, felly mae’n bur debyg fod y rhain wedi dilyn y clwb ers blynyddoedd.
Gwerth cyhoeddi’r clipiau hyn oedd dangos “drychwch, mae’r ymddygiad yma dal yn bodoli, ydan ni’n fodlon efo hyn?”
Os ydi pobl yn cael eu henwi a’u beirniadu’n gyhoeddus am eu hymddygiad yn sgil digwyddiadau fel hyn, bydd yn gwneud i eraill feddwl ddwywaith cyn ymddwyn yn yr un modd.
Rifkind a Straw
At achos y ddau wleidydd, sydd yn mynnu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le yn sgil datgeliadau Dispatches.
Er hynny, mae Malcolm Rifkind bellach wedi camu lawr o’i swydd fel cadeirydd Pwyllgor Cudd-Wybodaeth a Diogelwch y Senedd (ac eironi hynny’n amlwg) ac wedi dweud na fydd yn sefyll fel AS ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mae Jack Straw wedi gwahardd ei hun o’r Blaid Lafur dros dro wrth i’r mater gael ei archwilio, ac mae’r Blaid Geidwadol wedi atal y chwip rhag Malcolm Rifkind.
Yn ôl rheolau San Steffan does gan wleidyddion ddim hawl i siarad yn y Senedd ar ran cwmni sydd wedi eu talu nhw.
Mae Jack Straw a Malcolm Rifkind yn mynnu nad oedden nhw wedi cytuno i wneud hynny i’r cwmni ffug a sefydlodd Dispatches, ond mae’r rhaglen yn amlygu rhai pethau syfrdanol am y ddau.
Yn gyntaf Malcolm Rifkind, a awgrymodd y dylai bod ganddo ddigon o amser i weithio gyda’r cwmni ffug gan nad oedd e’n gweithio i unrhyw un yn benodol a’i fod yn rhydd i drefnu ei amser (mae’n siŵr y byddai’r cyhoedd sy’n talu ei gyflog fel AS yn anghytuno).
Ymysg pethau eraill a ddywedodd, fe ddangosodd ei hun wrth fynnu fod ganddo glust unrhyw lysgennad ym Mhrydain, gan awgrymu hefyd y gallai ysgrifennu at weinidogion i ofyn am wybodaeth allai fod o ddefnydd i’r cwmni.
Roedd Jack Straw hefyd yn barod i ddangos cymaint y gallai’r cwmni elwa o’i wasanaeth, gan frolio ei fod wedi gweithio ‘dan y radar’ i newid deddfau’r Undeb Ewropeaidd er budd cwmni oedd yn ei dalu.
Awgrymodd hefyd y gallai siarad yn fwy agored am y materion oedd yn effeithio ar y cwmni ffug o Tsieina petai’n symud o Dŷ’r Cyffredin i Dŷ’r Arglwyddi ar ôl yr etholiad.
Hyd yn oed os nad ydi’r ddau ohonyn nhw’n euog o dorri rheolau, felly (cawn weld beth sydd gan gomisiynydd safonau’r senedd i’w ddweud), mae datgeliad y camerâu cudd wedi codi cwestiynau pwysig.
Ydi’r cyhoedd yn hapus fod eu Haelodau Seneddol nhw yn defnyddio’u dylanwad a’u statws i helpu cwmnïau preifat yn y fath fodd? A ddylen nhw fod yn cael derbyn arian a gweithio i gwmnïau allanol tra’u bod nhw dal yn ASau?
Os ydach chi’n lager lout meddw ar y trên i wylio gêm bêl-droed, neu’n wleidydd parchus sydd eisiau gwneud ychydig o arian poced, mae’r wythnos yma wedi dangos y dylech chi fod yn ofalus sut ydych chi’n ymddwyn unrhyw le.
Ac os ydi gwaith y camerâu cudd yn arwain at amlygu ymddygiad amhriodol neu gywilyddio pobl i fihafio’n well, gorau oll.
Gallwch ddilyn Iolo Cheung ar Twitter ar @iolocheung.