Mae o leiaf wyth o bobl wedi marw ar ôl i ddyn arfog danio gwn mewn bwyty yn y Weriniaeth Siec.

Roedd y dyn arfog, oedd yn byw’n lleol ac yn ei 60au, wedi lladd ei hun yn dilyn yr ymosodiad.

Dywedodd Patrik Kuncar, maer tref Uherske Brod lle digwyddodd yr ymosodiad bod gweinydd yn y bwyty hefyd wedi cael ei chludo i’r ysbyty.

Mae’r dref tua 185 milltir i’r de ddwyrain o’r brifddinas Prague. Mae ffatri Ceska Zbrojovka, sy’n cynhyrchu gynnau, wedi’i lleol yn y dref.

Mae gweinidog y llywodraeth Milan Chovanec yn teithio i’r safle mewn hofrennydd ac yn bwriadu cynnal cynhadledd newyddion pan fydd wedi cyrraedd.

Dywedodd ar ei gyfrif trydar: “Yn ôl y wybodaeth sydd ar gael, nid oedd yn ymosodiad brawychol.”

Mae gan y Weriniaeth Siec reolau llym yn ymwneud a gynnau ond mae hela yn boblogaidd yn nwyrain y wlad.