Y tair merch sydd wedi teithio i Dwrci
Mae Scotland Yard  wedi gwadu eu bod wedi llusgo’u traed cyn cysylltu gyda’r awdurdodau yn Nhwrci dros ddiflaniad tair merch ysgol o Lundain, y credir sydd wedi teithio i Syria i ymuno ag eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Twrci, Bulent Arinc wrth newyddiadurwyr, mai swyddogion o Brydain fyddai’n atebol os nad yw’r chwilio am y merched yn dwyn ffrwyth, a hynny o ganlyniad i’r oedi cyn cymryd y “camau priodol.”
Ond dywed Scotland Yard eu bod wedi dechrau gweithio gyda’r awdurdodau yn Nhwrci, ddiwrnod ar ôl i’r ferch gyntaf ddiflannu wythnos yn ôl.
Roedd y tair merch, Shamima Begum, 15 oed, Kadiza Sultana, 16 oed, ac Amira Abase sy’n 15 oed wedi teithio o  faes awyr Gatwick i Istanbwl ddydd Mawrth diwethaf, mae’n debyg gyda’r bwriad o ymuno gydag IS yn Syria.
Cafwyd datganiad gan Scotland Yard: “Unwaith y cawsom wybod bod y merched wedi teithio i Dwrci, fe gysylltodd yr heddlu gyda swyddog yn Llysgenhadaeth Twrci yn Llundain ddydd Mercher, Chwefror 18.
“Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n glos gyda’r awdurdodau yn Nhwrci, sy’n gymorth mawr i’n hymchwiliad.”
Cafodd apêl ei wneud am wybodaeth ddydd Gwener diwethaf, dridiau ar ôl i’r merched hedfan i Dwrci.