Mae cyfraddau beichiogi i bobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr ymhlith yr isaf ers i gofnodion ddechrau ym 1969, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae’r ffigurau yn dangos cwymp o 13% yn nifer y merched sy’n beichiogi dan 18 oed yn 2013, gan ddisgyn i 24,306 yn 2013 o’i gymharu â 27,834 yn 2012.
Roedd yna ostyngiad o 14% yn nifer y merched dan 16 oed sy’n beichiogi, gyda 4,648 o achosion yn 2013, o’i gymharu gyda 5,432 yn 2012.
Mae’r adroddiad heddiw hefyd yn dangos bod nifer y merched o dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr oedd wedi cael erthyliad yn 2013 yn 50.7%, cynnydd o 48.7% yn 2012.
Dywed yr ONS y gallai’r gostyngiad yn nifer y merched ifanc sy’n beichiogi fod o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys gwella’r addysg ryw mewn ysgolion.