Wrth i’r setliad ariannol am blismona gael ei gytuno yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, galwodd Plaid Cymru am ddatganoli pwerau dros yr heddlu i Gymru er mwyn cynyddu atebolrwydd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Lywodraethiant Rhodri Glyn Thomas:  “Mae setliad cyllidol yr heddlu heddiw yn ein hatgoffa y daw traean o’r cyllid am blismona yng Nghymru o Lywodraeth Cymru, ac eto, ychydig iawn o atebolrwydd gawn ni am hynny.

“Mae Plaid Cymru  wastad wedi galw am ddatganoli plismona i Gymru ac am wneud Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gwasanaeth, barn a gefnogwyd gan adroddiad Comisiwn Silk.”

Ychwanegodd: “Dylai polisi plismona cenedlaethol Cymru gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru ar yr un sylfaen a’r Alban, ond gyda Chymru yn dewis ei system ranbarthol a lleol am bolisi ac atebolrwydd.”