Syr Malcolm Rifkind
Mae’r Blaid Geidwadol wedi atal y chwip rhag y cyn ysgrifennydd tramor Syr Malcolm Rifkind ac fe fydd pwyllgor disgyblu yn ymchwilio i honiadau ei fod wedi derbyn arian am ei amser.
Roedd Syr Malcolm Rifkind, sy’n cadeirio’r pwyllgor sy’n goruchwylio asiantaethau cudd-wybodaeth Prydain, yn un o ddau AS a gafodd eu henwi fel rhan o ymchwiliad gan y Daily Telegraph a rhaglen Dispatches ar Channel 4.
Cafodd Syr Malcolm a Jack Straw eu ffilmio’n gudd gan newyddiadurwyr oedd yn honni eu bod yn cynrychioli dwy asiantaeth gyfathrebu yn Hong Kong a oedd eisiau penodi dau wleidydd amlwg o Brydain i’w bwrdd cynghori.
Roedd Syr Malcolm Rifkind wedi honni y gallai drefnu cyfarfodydd gydag “unrhyw lysgennad rwy’n dymuno ei weld” yn Llundain oherwydd ei statws.
Yn ystod un cyfarfod dywedodd Jack Straw ei fod wedi defnyddio ei ddylanwad i newid rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar ran cwmni a oedd yn ei dalu £60,000 y flwyddyn.
Mae Syr Malcolm Rifkind a Jack Straw yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Bu Syr Malcolm yn cwrdd â Phrif Chwip y Blaid Geidwadol, Michael Gove, y bore ma.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod y blaid wedi atal y chwip gan Syr Malcolm Rifkind a bydd pwyllgor disgyblu yn ymchwilio i’r honiadau.