Ed Miliband
Mae Ed Miliband wedi galw am roi cap ar faint o arian mae ASau yn ei ennill drwy wneud swyddi y tu allan i’r Senedd.

Daw’r alwad gan arweinydd y Blaid Lafur wedi i ddau gyn ysgrifennydd tramor wynebu honiadau eu bod nhw wedi defnyddio eu dylanwad er budd cwmni preifat yn gyfnewid am daliadau o filoedd o bunnoedd.

Mae Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind wedi cael eu henwi fel rhan  o ymchwiliad gan y Daily Telegraph a rhaglen Dispatches ar Channel 4.

Mae’r ddau yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Mewn llythyr at David Cameron, mae Ed Miliband wedi annog y Prif Weinidog i “weithredu” ac i ddilyn ei esiampl drwy wahardd ei Aelodau Seneddol rhag dal swyddi fel cyfarwyddwyr ac ymgynghorwyr cwmnïau tra’u bod yn gwasanaethu yn San Steffan.

Mae Aelodau Seneddol a darpar ymgeiswyr seneddol Llafur eisoes wedi cael gwybod y bydd y blaid yn newid ei rheolau yn dilyn yr etholiad cyffredinol i’w hatal rhag dal swyddi o’r fath. Meddai Ed Miliband y bydd yr addewid yn cael ei gynnwys ym maniffesto Llafur.

Ac mae’r arweinydd Llafur hefyd wedi datgelu ei fod yn ystyried deddfwriaeth i osod cap ar yr incwm y gall ASau ei ennill mewn swyddi eraill. Mae system debyg yn bodoli eisoes i aelodau’r Gyngres yn yr Unol Daleithiau.

‘Dylanwadu’

Dywedodd Ed Miliband: “Mae angen i bobl Prydain wybod, pan fyddant yn pleidleisio, eu bod nhw’n ethol rhywun a fydd yn eu cynrychioli nhw’n uniongyrchol, ac nid yn cael eu dylanwadu gan fuddiannau pobl eraill.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran David Cameron nad yw’r Prif Weinidog wedi newid ei safiad ynglŷn â gwahardd ASau rhag cael eu penodi i swyddi o’r fath ond bod angen rheolau cadarn ynghylch tryloywder.

Cafodd Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind eu ffilmio’n gudd gan newyddiadurwyr oedd yn honni eu bod yn cynrychioli dwy asiantaeth gyfathrebu yn Hong Kong a oedd eisiau penodi dau wleidydd amlwg o Brydain i’w bwrdd cynghori.

Yn ystod un cyfarfod dywedodd Jack Straw ei fod wedi defnyddio ei ddylanwad i newid rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar ran cwmni oedd yn ei dalu £60,000 y flwyddyn.

Roedd Syr Malcolm Rifkind wedi honni y gallai drefnu cyfarfodydd gydag “unrhyw lysgennad rwy’n dymuno ei weld” yn Llundain oherwydd ei statws.

Mae Syr Malcolm yn cwrdd â Phrif Chwip y Blaid Geidwadol, Michael Gove, heddiw i drafod yr honiadau yn ei erbyn.